Y Pwyllgor Cyllid
 Senedd Cymru
 Bae Caerdydd
 Caerdydd
 CF99 1SN

Y Pwyllgor Cyllid
 —
 Finance Committee
 Senedd Cymru
 Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN
 SeneddCyllid@Senedd.cymru
 senedd.cymru/SeneddCyllid 
 0300 200 6364
 —
 Welsh Parliament
 Cardiff Bay, Cardiff, CF99 1SN
 SeneddFinance@senedd.wales
 senedd.wales/SeneddFinance 
 0300 200 6364
 

 

 

 


4 Mawrth 2021

Annwyl gyfaill

Ymgynghoriad ar ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i drefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE.

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad i drefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE.

Cylch gorchwyl:

I ystyried:

·         Cynnydd o ran sefydlu a darparu cronfeydd cyfnewid ar gyfer cronfeydd strwythurol yr UE, gan gynnwys:

o    Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU; 

o   y Gronfa Adnewyddu Cymunedol; a’r

o   Gronfa Codi'r Gwastad.

·         Y modd y mae’r cyllid arfaethedig ar gyfer Cymru a’r cyllid a gafwyd yn sgil cyfranogiad parhaus y DU yn rhaglenni’r UE yn cymharu â’r cyllid a gafwyd tra’r oedd y DU yn aelod o’r UE.

·         Y mecanweithiau a’r strwythurau sy’n cael eu sefydlu i weinyddu’r cronfeydd hynny yng Nghymru, rolau’r rheini sy’n gysylltiedig – yn enwedig Llywodraethau Cymru a’r DU – a’r effaith ddilynol ar drefniadau atebolrwydd.

·         Swm y cyllid etifeddol y mae disgwyl i Gymru ei gael ar ôl i’r DU adael yr UE ac sy’n gysylltiedig â rhaglenni cronfeydd strwythurol yr UE..

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â diddordeb yn y pwnc hwn.

Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad. Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor y gwanwyn.

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae’r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno’n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â’u rhwymedigaeth statudol.

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni at: SeneddCyllid@senedd.cymru

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Dylai’r ymatebion ddod i law erbyn 1 Mai 2022. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn. Mae canllawiau i'r rheini sy'n rhoi tystiolaeth i bwyllgorau ar gael. Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn at unrhyw unigolyn neu sefydliad a hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Senedd ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.

Datgelu gwybodaeth

Mae polisi’r Senedd ar ddatgelu gwybodaeth ar gael, gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Fel arall gellir gofyn am gopi caled o'r polisi hwn trwy gysylltu â'r Clerc (Leanne Hatcher 0300 200 6364).

Yn gywir,

Peredur Owen Griffiths AS
Cadeirydd

 

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.